Croeso i Archifau Cymunedol Cymru
Casgliadau o ddeunydd mewn dwylo preifat sydd wedi cael eu digido a'u dehongli gan grwpiau cymunedol yw archifau cymunedol digidol, gan ganiatáu i'r cymunedau gyflwyno eu hanes eu hunain yn eu geiriau eu hunain.
Mae ACC yn brosiect peilot 15 mis i alluogi 11 grŵp o fewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf ledled Cymru i greu eu harchifau digidol eu hunain a'u rhannu ar wefan ACC (www.cymruni.org.uk). Mae'r prosiect yn cyflogi 4 aelod staff. Dechreuodd ym mis Ionawr 2007 a daw'r cyfnod cyfredol i ben ym mis Medi 2008.
Wedi'i chwilio'n ddiweddar










